Pwy welaf o Edom yn dod?
Pwy wela'i o Edom yn dod?

1,2,3,(4a,(5,7));  1,(3),4a;  1,4b;  1,6,7.
(Buddugoliaeth Crist)
Pwy welaf o Edom yn dod
  Mil harddach
    na thoriad y wawr
Yn sathru dan wadn ei droed
  Elynion yn lluoedd i'r llawr?
Ei wisg wedi ei lliwio gan waed,
  Ei saethau a'i gleddyf yn llym
A'i harddwch yn llanw'r holl wlad,
  Yn ymdaith yn amlder ei rym!


[Pwy wela'i o Edom yn dod,
   Mil harddach
     nâ thoriad y wawr,
 Yn sathru dan wadn ei droed,
   Elynion yn lluoedd i'r llawr;
 A'i wisg wedi ei lliwio â waed,
   A'i saethau a'i gleddyf yn llym
 A'i harddwch yn llanw'r holl wlad,
   Yn ymdaith yn amlder ei rym!]

Myfi, 'r hwn wyf Alpha cyn byd,
  Wyf gadarn i ladd a bywhau;
Fy ngeiriau a safant i gyd,
  Pan ballo ffyddlondeb pob rhai:
Ond pa'm mae dy wisgoedd yn waed,
  A'ath gleddyf mor goched ei fin,
Fel un a fu'n
    sathru dan draed
  Y gwinwryf
      yn ngwinllan y gwin?

Wrth weled y fyddin mor fawr,
  Dan arfau mewn digter a llid,
Yn llanw holl gyrau y llawr,
  Y bobl a giliodd i gyd;
A'm gadael yn unig heb ail,
  I sefyll yn ngwyneb fy nghâs,
Gelynion mor amled a'r dail
  Yn llanw holl gyrau y maes.

Mi godais i fyny fy llaw,
  Ymleddais, enillais y dydd;
Fy holl waredigion a ddaw,
  A'r caethion a roddir yn rhydd;
E nillais fath goncwest trwy waed,
  Mae genyf lywodraeth mor fawr,
Hyd eithaf trigfanau fy Nhad,
  Mae'n cyraedd
      o'r nefoedd i'r llawr.

[Fe gododd i fynu ei law,
   Ymladdodd, ennillodd y dydd!
 Ei holl waredigion a ddaw,
   A'i gaethion a roddir yn rhydd!
 Fe 'nillodd lath goncwest trwy waed,
   Mae ganddo lywodraeth mor fawr!
 Hyd eithaf trigfannau ei Dad,
   Mae'n cyrhaedd
       o'r nefoedd i'r llawr.]

Pa feddwl, pa 'madrodd, pa ddawn,
  Pa dafod all osod i maes,
Mor felus, mor helaeth, mor llawn,
  Mor gryfed ei gariad a'i ras?
Afonydd sy'n rhedeg mor gryf,
  Nas dichon i bechod na bai
Wrthsefyll yn erbyn eu llif,
  A'u llanw ardderchog didrai.

Y rhyfel o'n hochr ni sydd,
  Er cymmaint
      ein tuchan a'n cŵyn;
Daw concwest
    i'r gwannaf ei ffydd,
  Trwy waed yr Immanuel mwyn;
Mae hefyd y'nghartre' fy Nâf,
  Afonydd o laeth ac o fêl,
Tu ag yno trwy gymhorth yr âf,
  A deued hi fel ag y dêl.

Fel fflamiau angherddol o dân
  Yw cariad f'Anwylyd o hyd;
Fe losgodd bob rhwystrau o'i flaen,
  Fe yfodd o'r afon i gyd:
Ymaflodd mewn dyn ar y llawr,
  Fe'i dygodd â'r Duwdod yn un;
Y pellder oedd
    rhyngddynt oedd fawr,
  Fe'i llanwodd â'i haeddiant ei hun.
wedi ei lliwio :: wedi ' lliwio
a bywhau :: ac iachau
Y pellder :: A'r pellder

John Williams 1728-1806

Tonau [8888D]:
Arabia (W J White)
Blandford (<1825)
Bozra (John Jones [Eos Bradwen] 1831-99)
De Fleury (J S Bach 1685-1750)
Edom (Thomas Evans ?-1824)
Edomia (Robert Edwards 1796-1862)
Lambeth (<1825)
New Jerusalem (alaw Gymreig)
St Andrew (Lowell Mason 1792-1872)
Salome (alaw Gymreig)

gwelir:
  Fel fflamau angherddol o dân
  Mae'r lle sancteiddiolaf yn rhydd
  Rhan II - Mi godais i fyny fy llaw
  Pa feddwl pa 'madrodd pa ddawn?
  Y rhyfel o'n hochor y sydd

(The Victory of Christ)
Whom do I see coming from Edom
  A thousand times lovelier
      than the break of day
Trampling under the sole of his foot
  Enemies in multitudes to the ground?
His raiment stained with blood,
  His arrows and his sword sharp
And his beauty filling the whole land,
  Marching with prodigious force.

[Whom do I see coming from Edom,
   A thousand times lovelier
     tha the break of dawn,
 Trampling under the sole of his foot,
   Enemies in multitudes to the ground;
 With his raiment stained with blood,
   And his arrows and his sword sharp,
 And his beauty filling the whole land,
   Marching with prodigious force?]

I, this one, am Alpha before anything,
  I am strong to kill and enliven;
My words shall all stand,
  When all things fail in faithfulness:
But why are thy garments bloody,
  And thy sword so red its edge,
Like one who has been
    trampling under foot
  The winepress
     in the vineyard of the wine.

While seeing the army so great,
  Under arms, full of ire,
Filling the whole face of the ground,
  The peoples having all retreated,
And myself left alone without another,
  To stand in the face of my enemy,
Adversaries as numerous as the leaves
  Filling all the corners of the field.

I lifted up my hand,
  I seized, I won the day;
All my delivered ones will come,
  And the captives to be set free;
I won such a conquest through blood,
  I have such a great authority,
Right unto the dwellings of my Father,
  It reaches
      from the heavens to the earth.

[He lifted up his hand,
   He seized, he won the day;
 All his delivered ones will come,
   And the captives to be set free;
 He won such a conquest through blood,
   He has such great authority,
 Right unto the dwellings of his Father,
   It reaches
       from the heavens to the earth.]

What thought, what report, what gift,
  What tongue can set forth,
How sweet, how broad, how full,
  How strong are his love and his grace?
Rivers which are running so strongly,
  No can sin or fault is able
To withstand against their flow,
  And their excellent, unebbing flood.

The war is on our side,
  Despite the amount of
      our grumbling and complaining;
The victory will come
    to the weakest of faith,
  Through the blood of the meek Immanuel;
There are also in the home of my Master,
  Rivers of milk and of honey,
Towards there through help I will go,
  And let it come as it may come.
  
Like intense flames of fire
  Is the love of my Beloved still;
Ite burned every obstacle before it,
  It drank all of the river:
It cast itself in man down,
  It brought him and the Godhead to be one;
The distance which was
    between them was great,
  It flooded it with its own merit.
::
and enliven :: and make whole
The distance :: And the distance

tr. 2009,16 Richard B Gillion

(The Conqueror)
From Edom whom see I returned
  More beauteous
      than break of the dawn?
The foes He hath conquered and spurned
  Who proudly against Him were drawn.
With blood his fair raiment is dyed,
  How sharp are his arrows and sword:
The fame of his prowess be wide,
  His name through the world be adored!
1854 Joseph Morris

Who is He that comes from Edom,
  With all his raiment stained with blood,
Mighty Victor, who brings freedom,
  Scattering and bestowing good?
See the blood his raiment staining;
  It is the blood of many slain;
Of his foes there's none remaining,
  No, none the contest to maintain.

The conqueror! see how glorious
  To all the people is the sight!
Comes the Saviour, now victorious,
  Travelling onward in his might!
He who gave himself to save us,
  For us the victory has won,
And of the blood, gift so precious,
  Oh, we will sing what He has done.
Hymns & Tunes in Welsh & English (E T Griffith) 1884

Tunes [8888D]:
Arabia (W J White)
De Fleury (J S Bach 1685-1750)

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~